top of page
Search
Writer's pictureChris

Prawns XO fried rice

Updated: Feb 3, 2021


THIS IS MY ALL-TIME FAVOURITE BOWL OF FOOD!!! The first rule of XO sauce is: THERE ARE NO RULES! Go with the flow with whichever ingredients you like, don't worry about exact measurements, and taste as you go!


Ingredients


  • Pestle & mortar, wok (any good non-stick frying pan will do)

  • Dried bird's eye chillies

  • Garlic cloves

  • Banana shallots

  • Fresh chillies

  • Anchovies in olive oil

  • Spring onions

  • Soy sauce

  • Palm sugar (or any sugar)

  • Sesame oil

  • Fish sauce

  • Rice wine vinegar

  • Prawns (you can substitute these for chicken or tofu)

  • Cold leftover rice

  • Eggs


Method


  • In a pestle & mortar (or blender) make the XO sauce by bashing dried bird’s eye chillies, peeled garlic cloves, chopped banana shallots, chopped fresh chillies, anchovies, spring onion whites (keep the greens for garnishing). Add light or dark soy sauce, palm sugar (or any sugar will do), mild oil (I used rendered pork fat and pork stock), fish sauce and rice wine vinegar. Taste as you go and season to taste (the anchovies and soy sauce will be salty!)

  • If your prawns are fresh in the shell I recommend peeling half and keep half in the shells - you'll get amazing flavour from them. If you don’t suck the prawn heads when eating the shelled prawns then you’re eating 'em wrong!

  • Get the wok smoking, fry off half of the XO sauce/paste. Throw in the prawns in the shells and 30 seconds later add the peeled prawns. Be careful and DON’T OVERCOOK THEM! A minute is enough. Take out and keep them in a bowl

  • Cook off the rest of the XO mix to the wok, add the cold leftover rice, stir so all grains are covered then leave it alone for a bit to develop some gnarly rice crust! The rice will be popping on the hot wok - LOVE IT!!

  • When you’re happy with the colour of the fried rice, move to one side and add two whisked eggs, stir eggs and mix with the rice. Add the prawns and serve immediately, garnished with spring onion greens. BOOM!




Reis sôs XO efo corgimychiaid (prawns, de!)


HWN YDI'N HOFF BOWLAN I O FWYD!!!! Y rheol cynta efo sôs XO ydi - DOES NA'M RHEOLAU! Dwi'm yma i roi union fesuriadau o bob dim i chi, dwisho i chi arbrofi a neud o fel 'da chi'n licio ia. Defnyddiwch gymaint neu cyn lleied o'r cynhwysion a 'da chisho a cofiwch flasu wrth i chi fynd de, fydd o'n lyfli!


Cynhwysion


  • Pestle & mortar, wok (neith padell ffrio 'non stick' y tro)

  • Tsilis 'bird's eye' wedi sychu

  • Garlleg

  • Sialots banana

  • Tsilis ffres (faint bynnag da chisho, dwi'n rhoi dau reit dda)

  • Brwyniaid mewn olew olewydd (anchovies 'di brwyniaid - gair y dydd!)

  • Shibwns (gair y De am spring onions - tua tri dwi'n iwsho)

  • Sôs soy ysgafn

  • Siwgr palmwydd (neith unrhyw siwgr y tro rili, ond ma siwgr palmwydd yn lyfli yn hwn)

  • Olew sesame

  • Sôs pysgod

  • Finegr gwin reis

  • Corgimychiaid (mae hwn hefyd yn gweithio efo cyw iâr neu tofu)

  • Reis oer wedi'i goginio'n barod (os oes gyna chi beth dros ben ar ôl cyri, aidial!)

  • Wyau


Dull


  • I neud y sôs XO rhowch y tsilis 'bird's eye' mewn yn y pestle & mortar a malwch nhw chydig, wedyn mewn efo garlleg 'di pilio, sialots banana a tsilis ffres wedi'i tori'n fân, y brwyniaid a rhan gwyn y shibwns (fyddai'n defnyddio y rhannau gwyrdd nes 'mlaen i roi ar y top ar ôl cwcio). Yna, 'chydig o'r sôs soy, siwgwr, joch dda o olew (nesh i ddefnyddio 'chydig o ffat a jiwsus joint porc nesh i rostio diwrnod o'r blaen am fwy o flas), sôs pysgod a'r finegr. Blaswch a wedyn rhowch chydig o halen a phupur i mewn (gan gofio bod y brwyniaid a'r sôs soy yn mynd i fod yn hallt, so dim gormod o halen!)

  • Os oes na blisgyn ar eich gorgimychiaid chi faswn i'n pilio hanner nhw a cadw'r gweddill 'mlaen - mae 'na flas anhygoel yn y cregyn

  • Rwan 'da chisho cynhesu'r wok tan mae o'n rili poeth ac ychwanegu hanner y sôs XO a ffrio fo am tua munud. Taflwch y corgimychiaid efo'r cregyn mewn i'r wok a ffriwch am 30 eiliad cyn ychwanegu'r corgimychiaid wedi pilio. Friwch nhw rhyw funud tan ma nhw yn troi'n binc ac allan a nhw mewn i bowlen - cadwch nhw i un ochr

  • Ffriwch weddill y saws yn y wok am ychydig cyn ychwanegu'r reis 'di cwcio a cymysgwch tan bod bob gronyn o'r reis wedi'w orchuddio yn y sôs - peidiwch a'i gyffwrdd am 'chydig er mwyn datblygu crystun neis ar waelod y wok - fydd y reis yn popio ar y wok poeth - dwi wrth 'y modd efo'r sŵn yna, YESSSSS!

  • Cymysgwch eto, a pan mae'r reis yn liw brown neis symudwch o gyd i un ochr y wok a ychwanegwch 2 ŵy, cymysgwch yr wyau'n dda efo spatula cyn cymysu yn ôl mewn i'r reis. Ychwanegwch y corgimychiaid yn ol i'r wok a cynhesu, sticiwch bob dim mewn bowlen a sbrinclwch rhannau gwyrdd y shibwns ar y top - BOOM!


783 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page