CHWARAE
EFO TÂN
Mae’n siŵr eich bod chi’n ’nabod Chris yn sgil ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac ei raglen ar S4C, Bwyd Epic Chris - ond mae ei berthynas â bwyd yn mynd yn ôl yn llawer pellach. Yn wir, dechreuodd ei obsesiwn â choginio yn ystod ei blentyndod; tra roedd ei fêts yn gwylio Teenage Mutant Ninja Turtles, roedd Chris yn brysur yn gwledda ar raglenni ei arwr, Keith Floyd.
Cafodd Chris ei ysbrydoli gan nifer o gogyddion eraill dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys ei dad. Heliwr-gasglwr oedd o, fyddai’n aml yn ymuno ȃ’r Gauchos ar deithiau pysgota ym Mhatagonia. Byddai’r hen go’ yn dod adre' efo straeon anhygoel a phob math o anifeiliaid marw - gan greu argraff fawr ar ei fab. Mae Chris yn dal i gofio dod wyneb yn wyneb â llwyth o ffesantod marw yn hongian yn y garej un bore!
​
Ar ôl gorffen ei lefel A, cymerodd Chris flwyddyn allan i gystadlu yng nghystadleuaeth golffio'r European Long Drive Tour. Motto'r chwaraewyr? 'Eat every meal as if it's your last!' Cafodd flwyddyn wrth ei fodd yn teithio o gwmpas Ewrop - gan fyw a bwyta fel tasa 'na ddim 'fory!
Yn ddiweddarach yn ei ugeiniau, setlodd lawr yng Nghaernarfon a chael swydd llawn-amser yn gofalu am oedolion ag anableddau dysgu - ond mae'r angerdd a'r ysfa i goginio wedi parhau.
Pan bu farw ei dad, ciciodd Chris ei hun am beidio cadw cofnod o'i holl straeon anghygoel. Ond rai blynyddoedd yn ddiweddarach, tra'n gwylio pennod o Chef's Table, llifodd holl straeon de America yn ôl iddo. Wrth wrando ar Francis Mallman yn siarad am Asado - sut y mae'n fwy na ffordd o goginio yn unig: ei fod hefyd yn ffordd o fyw - cafodd Chris syniad.
Gyda'r nod o ddod â phobl at ei gilydd tra'n talu gwrogaeth i gynhwysion godidog gogledd Cymru, penderfynodd Chris lansio ei ŵyl fwyd ei hun: CHRISFEST. Penllanw'r ŵyl oedd carcasau'n rhostio'n braf ar groesau haearn yng nghanol tref Caernarfon. Daeth cannoedd o bobl i weld y bowlen dân a adeiladwyd gan Chris a'i ffrindiau, a dyna lle buon nhw, yn bwyta ac yn yfed a chreu miri nes i'r fflamiau olaf ddiffod.
Aeth y rhyngrwyd yn wyllt, a cafodd Chris fflyd arall o ddilynwyr - ac yn y pen draw arweiniodd hynny at ei sioe deledu ei hun. Mae Bwyd Epic Chris wedi bod yn llwyddiant ysgubol a does dim awgrym fod archwaeth Chris am fwydydd tanbaid ar fin dod i ben.
​
Nesaf ar y fwydlen? Rhoi tân ym mol y byd i gyd!